Collection Title: Seren Cymru

Institution: The National Library of Wales

Rights: This resource is copyright of Baptist Union of Wales.

View full details

First Previous Image 9 of 16 Next Last
Full Screen
5 articles on this page
Undeb Bedyddwyr Cymru yn New Tredegar

Undeb Bedyddwyr Cymru yn New Tredegar. MR. W. B. DAVIES (Trysorydld Lleol). MR W H REES (Ysg. Pwyllgor Ymborth). MR OWEN JONES (Ysg. Pwyllgor Lletty). PARCH. J. ROBERTS (Yisgrifenydd Cyffredinol).

Y PRIFWEINIDOG YNG NGHYMRU

Y PRIF-WEINIDOG YNG NGHYMRU. Nid yn fynnych yr ymwel y Prif-weinidog a, Chymru, ao ni ymwelodd erioed a'n gwlacl ar neges mor bwysig a'r hon a'i dygodd i Gaerdydd nos Wener diweddaf. Ymwelsai o'r blaen ag 'Edinburgh a Dublin, a thra- ddodai araith rymus y;n Llundain i'r diben o ennyn brwdfrydedd ymhlaid y rhyfel, ac o gymell gwyr ieuanc yng ngwahanol ran- nau'r deyrxias i ymrestru yn y Fyddin. Caed Qynhulliad 11,a ei debyg i'w wrando yng Nghaerdydd. Yr oedd arwein- wyr pob plaid grefyddol a gwleidyddol yn y wlad ar jr esgynlawr, a thybid fod tuag wyth mil ohobl yn bresennol. Erbyn hyn nid oes fawr newydd i'w ddweyd ar yr hyn a arweiniodd i'r rhyfel nae ar degwch achos Prydain, orid yr oedd araith Mr. Aisquith yn gref, a gwirioneddol hyawdl. Cyrner- adwyodd y cynllun a weithir allan gyda brwdfrydedd i gael Byddin Gymreig. Rhydd Canghellor .,y Trysorlys lawer o'i sylw a'i amser y dyddiau hyn i'r amean o gario allan y bwlriad hwn, a cheir arwyddion na fydd CymJr'u'n ol i rannau ereill y Deyrnas mewn gwneud ei rhan i orchfygu'r Kaiser.

GWEINIDOGION YR EFENGYL AR FYDDIN

,GWEINIDOGION YR EFENGYL A'R FYDDIN. Nid ydyis yn gweled lygad yn llygad ar y priodoldeb i weinidogion yr efengyl droi allan i gynnal cyriddau i gymell gwyr ieu- anc i ymrestru yn y fyddin. Y mae am- ryw o weinidogion yn myned o fan i fan i'r amcan hwn, a chred llawer mai mwy gweddaidd fuasai iddynt gad wi at eu gwaith arbennig eu hunain a gadael y gorchwyl o gymell rhai i droi yn filwyr i eraill. Ysg- rifennodd y Prifathro Rees, o Goleg Bal- or lythyr ieryf i'r "Brython" ar Y Rhyfel a'i phedwar ffiloreg," a chyffyrdda yaddi ag adhos y gwieinidogion. Dyma a ddywed: "Arsail y, ffiloreg o berthynas i amddiffyn cenhedloedd bychain, ceisir gwthio gweinidogion ac arweinwyr erefyddoI yng Nghymru i b,erswiadior bechgyn i fynd i ryfel. Nid wyf am feio'r neb sydd yn credu yn y, "rhyfel sanctaidd am wiaeud hynny. Barned pob un drosto'i hun. Ond gwrth- dystiaf yn erbyn yr ymgais i wneud yr eglwys Gristionogol a'i gweinidogion yn gylfredinol yn gyfrifol a-m ddanfon pobl i ryfel. Cred 11awer o honom nad oes e :i ryfel o gwbl, o dan unrhyw amgylchiadau, yn nhrefn yr efengyl. Cred Ilawer mwy fod ganddynt ddigon owaith i wrthwynebu'r llifeiriant drygioni isy^n llifo dros vvledvdd Ewrop, heb gymeryd rhan i'w chwyddo. Ni pherthyn i ni wneud rhyfel, na'i gar.ie ymlaen." Ar yr ochr arall i'r cwestimi, dywedai'r Parch. T. 0. Williams, M.A., mewn cyfarfod ym Mlaenau Ffestiniog yr wythnos ddiweddaf eiriau fel hyn: "Mae clooh newydd yn oanu, ac mae swn eras a dieithr ganddi. Yr ydym ni wedi arfer yn swn cloch heddweh, cloch gwaith ac ysgol, ond y mae y; rhai yna wedi eu boddi yn swn y gloeh nowykid rhyfel. Paham y mae'r pregethwr yn oanu'r gloch? Un ateb, am ei fod yn ddyn, yn ddinesydd, yn talu rhent a threthi, fel pob pechadur arall. Dy- wed rhai nad oeis ganddynt ddim hawl i ddweyd eu barn ar gwestiwtn sydd yn ber- wi'r wlad. Credaf yn wahanol, fod gennych hawl i wybodl ein barn. Na ato Duw i mi fyned ar hyd y wlad i geisio cynhyrfu ysbryd rhyfel yn neb. Mac rhyfel ar y goreu yn ynfydrwydd, yn rhyw ffnrf ar wallgofrwydd, os nad yn bechadurus. Mae yn groes i egwyddorion yr Efengyl yn ol dyegeidiaeth y Gair; a dyna sydd yn waith anodd, oodi ysbryd rhyfel, a gwneud heb i hynny fyned i waed y bobl ar ol y rhyfel. Y mae dau beth Yfil glir am y rhyfel hon. Yn laf, na fuasai dim modd i ni osgoi mynd allan i'r rhyfel yma, heb orchuddio ein hunain a ohy wilydd am byth, Yn 2il, Pe buasai i ni beidio ag ymuno yn y frwydr y tro yma, ni fuasai yn ddim ond gohirio er mwyn i'r gelyn gael mwy o amser i ennill nerth. Yn ddiddadl, y mae hon yn un o ryfeloedd yr Arglwydd.

YR ATEB I DDIWINYDDION YR ALMAEN

YR ATEB I DDIWINYDDION YR ALMAEN. Cyhoeddodd rhai o ddiwinyddion amlyoaf yr Almaen ychydig wythno'sau'n ol, yr hyn a al went yii "Apel at Gristnogion efeng- ylaidd sydd ar wiasgar." Yn yr "apel" hon maentumient fod yr Almaen yn hollol ddieuog o fod wédi dwyn oddiamgylch y rhyfel bresennol, ac nad oedd fodd iddi weithredu ond fel y gwnaeth. Gwasgarwyjd llawer ar y pamffletyn hwn yn Lloegr ac yn America. Yr wythnois iddiweddaf cyhoedd- wyd at jb oithriadol o glir a grymus i'r apel hon, o dan arweinia.d Archesgob Caer- gaint, gan brif ddiwinyddioji y Deyrnas hon. Rhydd hanes y camrau a arweiniodd Brydain Fawr" i ymyrryd yn y rhyfel, a dengyis yn glir fod yr holl gyfrifoldeb am y rhyfel yn gorffwys wrth ddrws yr Al- maen. Arwyddwyd yr "ateb" gan nifer fawr o wyr amlwg* yn perthyn i bob plaid grefyddol yn y Deyrnas.

PREGETHUR UNDEBi

PREGETHU'R UNDEBi Yr oedd cyfarfodydd pregethu'r Undeb eleni fel hyn: Dydld Merc her. Yn Saron am 7 o'r gloch y bore. Yn Gymraeg, y Parch. J. Nichol- as, Tonypandy. Yn Saesneg, Parch. R. S. Rogers, M.A., Mountain Ash. Dydki Iau. Yn Seisnig yn Carmel. 7 a.m. Parch. D. Frost Walters, Llanwen- arth. 10 a.m. Parchn. T. E. Williams, Newtown, a T. Lodwig Evans, Tenby (pre- geth yr Undeb). 2 p.m. Parchn. W. 0, Williams, Builth, a James Jones, B.Sic., Llandrindod. 6 a.m. Parchn. W. S. Jones, Llwynpia, a J. J. Richards, Aberavon., Yn Gymraeg yn Saron.10 a.m., Parch R. E. Williams, Pembre, ao R. Owen, Pwll, Llanelli (pregeth yr Undeb). 2 p.m., Parchn. Bryn Davies, Llandudno; a J. Lee Davies, Brynamman. 6 p.m., Parchn. D. Collier, Abertillery, ac Evan Williams, Fron- cysyllte, Llangollen. Yn Gymraeg yn Bethel (M.C.) (overflow). 2 p.m. Parchn. W. Rhys, Maencloohog, M Ej. G. Thomas, Cwmparc. 6 p.m., Parchji W.. Maurice, Taly wain, ao M. T. Rees, Meinciau.